Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol Mynydd Parys oedd mwynglawdd copr mwyaf cynhyrchiol Prydain. Hwn oedd cyfnod mwyaf toreithiog y safle, ond mae ei hanes mwyngloddio yn mynd yn ôl ymhell ynghynt. Darganfuwyd offer mwyngloddio o'r oes Efydd mewn rhan o'r safle o'r enw ‘Chwarel yr Eigion’. Mae'n debyg bod yr un rhan o'r safle lle darganfuwyd haearn gradd uchel am y tro cyntaf yn y 1800au ar ôl i lawer o ymdrechion fethu. Mae'r lluniau yma yn dogfennu sut mae diwydiant wedi difrodi'r amgylchedd naturiol ym Mynydd Parys a sut mae natur wedi adennill ers mwyngloddio ddod i ben.






Am linc i pdf y prosiect cliciwch yma***